Cynefin a Chreadigrwydd Marlyn Samuel
"Ma' Sir Fôn yn le reit fawr. Dwi'n teimlo'n hapusach yn fy nghynefin a sgwennu am fy nghynefin."
Dyma eiriau Marlyn Samuel, awdur a dramodydd o Ynys Môn, wrth i’r Ynys groesawu pobl yr wythnos hon i Eisteddfod yr Urdd. Mae Marlyn yn awdur hynod o boblogaidd sydd wedi cyhoeddi saith nofel ac yn aelod blaenllaw o Theatr Fach, Llangefni.
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi chwarae rhan bwysig iawn yn ei thaith ysgrifennu, gan ei helpu i ddatblygu ei gwaith o roi inc ar bapur. Dyma beth ddywedodd wrth Manon Steffan Ros ar ragen Llwyfan.
'Wastad isio sgwennu'
"O'n i wastad isio sgwennu nofel. Ond do'n i ddim yn gwybod sut i fynd ati. Drama o'n i wedi arfer sgwennu trwy'r cefndir Theatr Fach a dramâu radio.
"Ond do'n i ddim yn gwybod sut i fynd o'i chwmpas hi - yn enwedig y math o nofelau o'n i isho sgwennu, rhai ysgafn lle fysa ti'n gallu darllen rhyw bennod cyn mynd i gysgu neu wrth y pwll," meddai.
Ar ôl sgwrs gyda Mared Jones, sydd newydd ei phenodi yn Olygydd Creadigol Gwasg y Bwthyn, anfonodd Marlyn syniad a phennod am deulu yn mynd i Gyprus i wasgaru llwch pen y teulu, lle mae cyfrinachau mawr yn dod i'r amlwg. Cafodd y nofel ei chomisiynu ac ers hynny mae Marlyn wedi cyhoeddi chwe nofel arall.
Ers blynyddoedd mae Marlyn wedi bod yn aelod blaenllaw o Theatr Fach yn Llangefni, gan wneud y ddawn o sgwennu deialog yn naturiol iddi hi.
"Dwi'n mwynhau sgwennu deialog a dwi'n clywed y cymeriadau. Fyddai'n mynd â'r ci am dro ar ganol sgwennu pennod a weithiau ma rhywun yn mynd yn styc.
"Wrth fynd a'r ci am dro fyddai'n clwad y cymeriadau ma yn siarad efo fi yn fy mhen, mae'r ddeialog yn digwydd yn fy mhen i, rhuthro adra wedyn i gofio be dwi wedi ei drafod yn fy mhen."
Marlyn yn ennill y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tudful 1987
Gyda’r Eisteddfod yr Urdd yn dod i Ynys Môn eleni, mae Marlyn yn un sydd wedi sefyll ar y llwyfan fel enillydd. Yn 1987, enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Merthyr Tudful.
Ar ôl camu oddi ar y llwyfan, dywedodd wrth Roy Noble mewn cyfweliad am ei 'balchder' ar ôl ennill ac roedd Marlyn hyd yn oed bryd hynny yn pwysleisio ei hoffter o ysgrifennu deialog.
"Dwi wrth fy modd yn sgwennu straeon byrion, deialog a'r ddrama," meddai.
Hyd yn oed bryd hynny roedd Marlyn yn datblygu'r grefft o ysgrifennu'n fachog.

Nofel newydd?
O ran y dyfodol, mae Marlyn wedi dechrau ysgrifennu nofel newydd.
"Mae gen i un ar y gweill, dwi'n falch iawn o ddeud a megis dechra ydw i. Stori gwbl wahanol."
Yn aml mae Marlyn yn cael ei chanmol am ysgrifennu nofelau ysgafn ac mae llawer yn mwynhau ei straeon sydd llawn hiwmor ac yn aml yn cyfleu cymeriad pobl Ynys Môn.
"Dwi'n gyffyrddus yn sgwennu am bobl o Fôn. Dwi'n meddwl weithia, 'be os fyswn i'n lleoli'r stori yma yng Nghaernarfon?' Fysa fo ddim yn gweithio'n ru'n fath a fysa fo ddim yn eistedd yn gyffyrddus efo fi.
"Dwi'n hapusach yn sgwennu am fy nghynefin," meddai.
Ac yng nghynefin Marlyn bydd Eisteddfod yr Urdd eleni, lle bydd person arall, os bydd teilyngdod, yn sefyll ar y llwyfan, 39 mlynedd ers i Marlyn wneud hynny yn 1987 gyda'r Fedal Ddrama rownd ei gwddf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.






