Roosevelt, Stalin a'r Cymro yn y canol
Joe Davies gyda Joseph Stalin yn Moscow yn 1943
Roedd y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd yn adeg o densiwn a thrawsnewid, ac roedd diplomyddiaeth yn hanfodol i gynnal heddwch ledled y byd.
Un o'r diplomyddion allweddol yn y cyfnod hwn oedd Joseph Edward Davies, ffigwr amlwg a oedd yn ymwneud â rhai o arweinwyr mwyaf y cyfnod.
Cafodd Joseph 'Joe' Davies ei eni yn Watertown, Wisconsin, ar 29 Tachwedd 1876.
Er ei eni yn yr Unol Daleithiau, roedd ei rieni'n dod o Gymru - ei dad, Edward Davies o Dregaron, a'i fam, Rachel o Frynsiencyn, Sir Fôn.
Un o'r haneswyr sydd â diddordeb yn hanes Joe Davies yw Keith Bush, sydd hefyd yn dod o Dregaron.
"Y cysylltiad â Thregaron a ddenodd fy sylw i'n gyntaf. O'n i'n ymweld â Washington unwaith ac yn darllen am rannau diddorol o'r ddinas a dod ar draws cyfeiriad yr ystadau a'r plastai oedd o gwmpas, gan gynnwys un o'r enw Tregaron.
Roedd rhaid imi wybod mwy am hanes yr ystâd 'ma, gan ddysgu ei fod yn gartref i Joseph E. Davies, rhywun a oedd â'i deulu'n yn dod o Dregaron yng Ngheredigion."

Cymuned Gymreig Wisconsin
Roedd rhieni Joe Davies wedi ymfudo i America yn bobl ifanc, lle y cawsant eu cyfarfod, fel y mae Keith yn egluro:
"Roedd llawer iawn o Gymry Cymraeg wedi symud i Wisconsin. Wrth gwrs mae pobl yn dueddol o feddwl am y Cymry'n mynd i lefydd fel Scranton a Pittsburgh yn Pennsylvania - roedd gymaint o lowyr wedi mynd yno.
Ond roedd 'na hefyd symudiad pwysig o gefn gwlad Cymru i ardaloedd fel Wisconsin yng nghanol y 19eg ganrif, ble roedd 'na alw am sgiliau i ffermio'r wlad a darparu gwasanaethau, ac roedd cyndeidiau Joe Davies yn gweithio fel gofaint yn Nhregaron am genhedlaethau.
Roedd 'na llawer o gapeli Cymraeg yn Wisconsin, gyda'r gymuned yn gallu cadw i'w gwreiddiau ieithyddol a diwylliannol yno."
Watertown, Wisconsin, lle cafodd Joseph E. Davies ei eni

Roedd mam Joe Davies, Rachel Davies (Rachel o Fôn), yn ddarlithydd ac yn bregethwr efengylaidd ac fe chafodd ei hordeinio yn yr Unol Daleithiau - rhywbeth na fyddai wedi gallu digwydd yng Nghymru ar y pryd, meddai Keith.
"Nid yn unig yr oedd Joe yn dod o deulu Cymraeg ac mai dyna oedd iaith y teulu, ond roedd 'na gymdeithas gwbl Gymraeg ble cafodd ei fagu.
Roedd yr ymdeimlad o Gymreictod yn rhywbeth yr oedd Joe Davies yn ymwybodol iawn ohono. Daeth i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 1938 gan areithio yn y Gymraeg a Saesneg."

Codi drwy rengoedd y Blaid Ddemocrataidd
Ymunodd Joe Davies â'r Blaid Ddemocrataidd ar ddechrau'r 1900au ac o fewn ychydig flynyddoedd daeth yn gadeirydd y blaid yn Wisconsin.
"Nid y Democratiaid oedd yn y mwyafrif yn Wisconsin, ac eithrio Milwaukee roedd pobl y dalaith honno'n dueddol o gefnogi'r Gweriniaethwyr.
Daeth Davies yn amlwg yn y blaid yn ardal y Midwest ac roedd yn cydweithio â Woodrow Wilson."
Cafodd Davies ei benodi gan Wilson i fod yn Gomisynnydd Cyfathrebu yn 1912, ac yn Gadeirydd cyntaf Comisiwn y Bwrdd Masnach Ffederal yn 1915.
Roedd Davies hefyd yn allweddol ym muddugoliaeth Wilson yn Etholiad 1916, lle cafodd ei ail-ethol yn Arlywydd drwy guro Charles Evans Hughes, Cymro-Americanwr arall.
Yn y cyfnod hwn daeth Davies mewn cysylltiad â chefnogwr brwd arall i'r Democratiaid, Franklin D. Roosevelt, ac yn ôl Keith Bush,
"fe ddaeth y ddau ohonyn nhw yn gyfeillion agos, a dyna sut y daeth Joe Davies yn gynghorydd ar Rwsia yn yr 1930au i F. D. Roosevelt."

Llysgennad yn Yr Undeb Sofietaidd
Treuliodd Joe Davies gyfnodau fel llysgennad i Wlad Belg a chennad yn Lwcsembwrg, ond roedd y swydd a gafodd cyn hynny, o 1936 i 1938, yn un o'r pwysicaf y gallai fod.
"Fe ofynnodd Roosevelt i Joe Davies fynd i Moscow fel llysgennad. Doedd ganddo fe ddim cefndir mewn materion tramor ac rwy'n credu bod hwnna wedi bod yn atyniad i Roosevelt - roedd gwleidyddion yn gallu bod yn ddrwgdybus o ddiplomyddion proffesiynol", meddai Keith.
Pan aeth Davies i Rwsia fel llysgennad, roedd yn ymwneud â'r gweinidog tramor, Maxim Litvinov, a oedd yn eitha' cyfeillgar ac agored i syniadau gorllewinol, a'r Prif Weinidog, Vyacheslav Molotov.
Doedd Stalin ddim yn dal unrhyw swydd lywodraethol o gwbl. Roedd e'n ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol, ac felly fe oedd yn rhedeg popeth, ond o du ôl i'r llenni.
O ganlyniad, doedd Joe Davies ddim yn delio'n uniongyrchol â Stalin, ond fe wnaethon nhw gwrdd.
Cafwyd sgwrs hir rhyngddynt y tro cyntaf iddynt gwrdd, a sefydlwyd perthynas bersonol gan gwrdd unwaith eto yn 1943 ac yng nghynhadledd Potsdam ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

'Mission to Moscow'
Yn 1941 ysgrifennodd Davies Mission to Moscow, llyfr a oedd yn trafod ei waith diplomyddol yn Yr Undeb Sofietaidd. Roedd y llyfr yn hynod boblogaidd ac yn 1943 cafodd ffilm o'r un enw ei ryddhau, gyda'r sêr Walter Huston, Ann Harding ac Oskar Homolka.
Roedd llawer o'r farn bod y ffilm yn rhoi darlun llawer rhy bositif o'r Undeb Sofietaidd, o ystyried y dioddefaint i lawer o dan ormes Stalin.
"Roedd Hollywood yn fodlon 'glanhau' [whitewash] bywyd yn Yr Undeb Sofietaidd i gymharu â'r hyn yr oedd pobl Rwsia yn ei wybod" medd Keith.
"Roedd yr holl beth yn rhan o bropaganda i drio darbwyllo'r Americanwyr a oedd yn gwrthwynebu Comiwnyddiaeth yn gryf, ei bod hi'n bosib gwneud busnes gyda arweinwyr Comiwnyddol Yr Undeb Sofietaidd."

Dywed Keith mai'r rheswm y cafodd Joe Davies ei anfon i Rwsia oedd i wella'r berthynas rhwng Roosevelt, Stalin a Churchill.
"Roedd y berthynas rhwng y tri'n gallu bod yn un anodd", esbonia Keith.
"Fe'r oedd Churchill yn wrth-Gomiwnyddol iawn, ac roedd Roosevelt yn teimlo y bydda Churchill yn creu anawsterau i ddatblygu perthynas gyda'r Undeb Sofietaidd.
Beth oedd Roosevelt am wneud oedd cwrdd â Stalin - dim ond y ddau ohonyn nhw - a chadw Churchill allan fel petai, oherwydd roedd e'n ofni y bydda Churchill yn gwneud pethau'n anodd.
Prif bwrpas gyrru Joe Davies i Moscow oedd i drefnu cyfarfod heb i Churchill fod yn bresennol. Roedd Stalin 'chydig bach yn amheus o hyn, gan oedd yn teimlo na ddylai wastraffu ei amser yn dod i gytundeb gyda Roosevelt a fyddai wedyn yn cael ei chwalu gan Churchill."
Roedd cynlluniau i Roosevelt a Stalin gwrdd yn Alaska - digwyddodd e ddim, ond fe gafwyd cyfarfod rhwng y tri arweinydd yn Nhehran yn 1943.
Roedd Roosevelt yn edrych ymlaen ac yn ceisio meddwl sut bydda'r byd yn edrych wedi i'r Almaen gael ei threchu, a dyletswydd Joe Davies oedd cynorthwyo i drefnu cytundeb rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia a fydda'n sicrhau heddwch i'r byd.
Tuag at ddiwedd y rhyfel roedd Roosevelt dal eisiau cwrdd â Stalin heb i Churchill fod yn bresennol, ond bu farw'n sydyn iawn, ac o ganlyniad nid oedd yng Nghynhadledd Potsdam ar ddiwedd y rhyfel.
Yn wir, doedd Churchill ddim yn Potsdam yn haf 1945 ychwaith gan iddo golli'r etholiad cyffredinol ar 5 Gorffennaf 1945, ac felly Clement Attlee, Harry S. Truman a Joseph Stalin oedd yn cwrdd yno ar ran y cynghreiriaid.

Dylanwad y Gymraeg wrth ethol Arlywydd UDA
Nid F. D. Roosevelt oedd yr unig un a oedd yn galw ar arbenigedd Joseph Davies, fel dywed Keith Bush:
"Roedd olynydd Roosevelt, Harry S. Truman, yn dibynnu'n fawr ar Joe Davies gan nad oedd ganddo brofiad gyda materion rhyngwladol, ac roedd Davies yn adnabod Stalin a Churchill, ac felly'n rhywfath o bont rhwng y gwahanol bwerau.
Roedd ganddo sgiliau cyfreithiwr i negodi a chyfaddawdu, ac yn gallu dod ymlaen yn dda gyda phobl. Roedd yn cynrychioli buddiannau ei gleient, a'i gleient o rhwng 1937 a diwedd y rhyfel oedd Roosevelt a'r syniad 'ma o hybu gwell perthynas rhwng Yr Undeb Sofietaidd a'r Gorllewin.
Ond yn dilyn marwolaeth Roosevelt fe newidiodd polisi Truman i wrthwynebu a ffrwyno'r Undeb Sofietaidd, yn hytrach na chydweithredu'n bositif â nhw."
Joe Davies yn sefyll wrth ochr ysgwydd chwith yr Arlywydd Truman (sy'n eistedd). Roedd Davies yn rhan o gomisiwn a oedd yn edrych ar strategaeth hyfforddiant milwrol i bobl ifanc yr Unol Daleithiau

Mae Joe Davies wedi cael ei feirniadu gan rai am beidio rhoi digon o sylw i faterion fel y newyn mawr yn Wcráin ar y pryd, a hefyd yr achosion yn erbyn aelodau o'r llywodraeth a'r fyddin a gafodd eu cyhuddo o werthu gwybodaeth i'r Almaenwyr.
Roedd llawer yn gweld y showtrials 'ma fel arwydd o ba mor wrth-ddemocrataidd a chas oedd Llywodraeth Rwsia.
Hwyrach mewn bywyd
Wedi i'w fywyd fel diplomydd ddod i ben fe wnaeth Joe Davies a'i wraig, Marjorie Merriweather Post, fwynhau eu hymddeoliad. Roedd Marjorie Merriweather Post o deulu hynod gyfoethog - roedd ei theulu'n berchen ar y cwmni grawnfwyd 'Postum Cereal Company' a pan fu farw yn 1973 roedd ganddi gyfoeth o $250 miliwn (dros $1.5 biliwn yn arian heddiw).
Roedd gan y cwpl sawl tŷ - un yn Palm Beach, Florida, sydd bellach yn berchen i'r Arlywydd Donald J. Trump - Mar-a-Lago, ond ystâd Tregaron yn Washington oedd cartref Joe Davies bob dydd.
Roedd ganddynt long o'r enw'r Sea Cloud, ac arni yr hwyliodd Davies i Benarth ar gyfer Eisteddfod 1938.
Tregaron, cartref Joe Davies yn Washington D.C. fel y mae heddiw

Y neges roedd Davies a Roosevelt yn ceisio ei rhannu oedd bod y Rwsiaid ddim rhy annhebyg i'r Americanwyr, ac y byddai'n well cydweithio â nhw.
"O dan oruchwyliaeth Joe McCarthy, roedd gwrth-Gomiwnyddiaeth yn rhemp yn America ar ddiwedd yr 1940au a dechrau'r 1950au, ac felly doedd dylanwad Joe Davies ddim yn cael ei weld fel rhywbeth positif iawn.
Roedd wedi heneiddio erbyn hynny ac roedd bywyd cyhoeddus Joe Davies drosodd i bob pwrpas wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Roedd Joe Davies yn gyfreithiwr a diplomydd pragmatig, oedd yn credu yn y syniad o fyd ble mae cenhedloedd yn cydweithredu gyda'i gilydd am heddwch rhyngwladol, hyd yn oed os oedd gwahaniaethau sylfaenol iawn yn y ffordd maen nhw'n rhedeg eu cymdeithasau mewnol."
Cafodd Joe dair o ferched; Eleanor, Emlen a Rahel, ac bu farw yn ei gartref, Tregaron, yn 1958.
Bu farw Joe Davies ar 9 Mai, 1958, yn 81 mlwydd oed






