Skip to main content
Advertisement

Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026 wedi'u cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn

Enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026 wedi'u cyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn, gan gynnwys Am Gymro! a Gwen ac Arianrhod yn ennill y categorïau cynradd ac uwchradd.

·4 min read
Gwobrau Tir na n-Og

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2026

Mae Gwobrau Tir na n-Og, y gwobrau hynaf ar gyfer llenyddiaeth plant yng Nghymru, wedi cyhoeddi eu henillwyr ar gyfer 2026 mewn seremoni arbennig a gynhaliwyd yn Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn ddydd Iau.

Yn y categorïau Cymraeg ar gyfer llenyddiaeth plant a phobl ifanc oed cynradd ac uwchradd, enillodd Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson a Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian.

Mae'r gwobrau'n dathlu'r gorau o lyfrau plant a phobl ifanc Cymru, neu lyfrau am Gymru, ac eleni maent yn nodi hanner canrif ers eu sefydlu yn 1976.

Am Gymro! yw enillydd y categori cynradd

Dywedodd y trefnwyr bod Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson, gyda darluniau gan Telor Gwyn (Y Lolfa), yn lyfr deniadol a llawn hwyl sy'n cyflwyno 13 o ddynion ysbrydoledig o Gymru sy'n arbenigwyr yn eu meysydd penodol ac yn dod o bob rhan o Gymru.

"Anodd ydi cyfleu'r teimlad o ennill y wobr hon heb ddefnyddio'r gair anrhydedd.
"Fedra i ddim coelio'r peth! Diolchaf i'r panel, Y Lolfa a'r Cyngor Llyfrau am y gefnogaeth, ond i ddarllenwyr ifanc Cymru mae'r diolch mwyaf.
"Dwi wrth fy modd yn ymweld ag ysgolion ledled y wlad a gweld y disgyblion yn byrlymu wrth ddysgu ychydig o'n hanes ni fel cenedl, gan obeithio 'mod i wedi ysbrydoli'r Richard Burton neu'r Dafydd Iwan nesa'!"
Clawr Am Gymro! gan Medi Jones-Jackson
Disgrifiad o’r llun, Am Gymro! yw enillydd y categori cynradd

Beirniadaeth y panel ar Am Gymro!

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins, cadeirydd y panel beirniaid: "Wrth ddathlu pen-blwydd gwobrau Tir na n-Og yn 50 eleni, roedd y panel i gyd yn teimlo bod cynnwys Am Gymro!, a'r ffocws ar rai o enwogion Cymru, yn ffordd dda o ddathlu.

"Mae'r wybodaeth a geir yn y gyfrol yn tynnu sylw at arwyr Cymru – nid yn unig y sêr chwaraeon a'r cantorion, ond hefyd yr arlunwyr, y gwyddonwyr, yr actorion a'r beirdd.

"Mae cynnwys a lluniau'r gyfrol yn ddifyr ac yn cydio yn y dychymyg, waeth beth fo'ch oedran, ac yn sicr mae yna rywbeth i'w ddysgu wrth ddarllen.

"Mae'r gweithgareddau yng nghefn y gyfrol yn ffordd hwyliog o gadw'r wybodaeth yn y cof."

Gwen ac Arianrhod yw enillydd y categori uwchradd

Dywedodd y trefnwyr bod Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian (Gwasg Carreg Gwalch) yn nofel graffig sy'n trafod cyfeillgarwch, galar, a'r trafferthion o dyfu i fyny.

"Doeddwn i'n methu coelio fod Gwen ac Arianrhod wedi cael ei dewis i fod ar restr fer Tir na n-Og eleni, felly roedd darganfod bod y gyfrol wedi ennill yn deimlad swreal – mae 'na gymaint o awduron a darlunwyr dwi'n eu hedmygu wedi ennill y wobr, felly dwi jyst yn methu coelio'r peth!"
"Ysgrifennu a gwneud y darluniau wedi bod yn 'llafur cariad' ac wedi 'gwthio fy ngallu fel darlunydd', ac felly bod ennill yn 'gymaint o anrhydedd'."
Clawr Gwen ac Arianrhod gan Lleucu Gwenllian
Disgrifiad o’r llun, Gwen ac Arianrhod yw enillydd y categori uwchradd

'Torri tir newydd ymhlith llyfrau Cymraeg'

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins: "Roedd y panel oll yn gytûn fod y stori hon yn torri tir newydd ymhlith llyfrau Cymraeg.

Ad (425x293)

"Mae ffurf a dyluniad y stori yn greadigol ac yn trafod pynciau amrywiol mewn ffordd afaelgar.

"Mae'r stori'n plethu'r hen a'r newydd ac yn cael ei hadrodd ar ffurf darluniau, ac rydyn ni'n profi emosiynau di-ri trwyddi draw – a hynny gydag ychydig iawn o eiriau ar y tudalennau!

"Rhaid canmol y creadigrwydd a'r sgìl oedd eu hangen i ddod â'r stori hyfryd hon yn fyw; mae'n cyfrannu at gyfeiriad llenyddiaeth Gymraeg gyfoes ac yn creu rhywbeth modern i ddarllenwyr ei ddarllen a'i fwynhau."

Enillwyr Gwobr Dewis y Darllenwyr 2026

Cafodd enillwyr Gwobr Dewis y Darllenwyr 2026 yn y categorïau Cymraeg eu cyhoeddi hefyd. Cawsant eu dewis gan blant a phobl ifanc a gymerodd ran yng Nghynllun Cysgodi Tir na n-Og.

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Cynradd) yw Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen, darluniwyd gan Cai Tudur (Y Lolfa).

Enillydd Gwobr Dewis y Darllenwyr (categori Uwchradd) yw Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa).

Yn ystod y seremoni, cyhoeddwyd enillydd Dewis y Darllenwyr Cynradd gan ddisgyblion Ysgol Llandegfan, a chyhoeddwyd enillydd Dewis y Darllenwyr Uwchradd gan Mei Madrun a Lleucu Hughes, aelodau o Banel Pobl Ifanc y Cyngor Llyfrau.

Llyfr Sgrap Macs Sion gan Mari Lovgreen ac Y Cae Ras gan Manon Steffan Ros

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News