Casglu Llestri Portmeirion Dros Hanner Canrif
Mae Meinir Lewis-Jones o Sir Benfro wedi bod yn casglu llestri crochenwaith enwog Portmeirion ers dros 50 o flynyddoedd. Mae ganddi gasgliad o rhwng 200 a 300 o ddarnau, gan gynnwys platiau, potiau a thebotau. Er y gallai rhai ddweud ei bod wedi mynd dros ben llestri, mae Meinir yn falch iawn o'i chasgliad.
"Dwi wedi mwynhau fy nghasgliad rhaid dweud, dwi'n eistedd yn y gegin rŵan yn edrych o 'nghwmpas a dwi'n gweld cloc Portmeirion, tebot Portmeirion, peth dal te Portmeirion, peth dal coffi Portmeirion, powlenni Portmeirion. Ond dyw e ddim yn teimlo'n ormod achos maen nhw i gyd yn wahanol."
O Brynu Cwpan a Soser i Gasgliad o 200 o Ddarnau
Sefydlwyd Crochenwaith Portmeirion yn 1960 gan Susan Williams-Ellis, merch Clough Williams-Ellis, pensaer y pentref Eidalaidd ger Porthmadog. Roedd gweledigaeth Susan Williams-Ellis yn cynnwys cynhyrchu crochenwaith ar gyfer siop y pentref Portmeirion.
Dros 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae llestri casgliad Botanic Garden, a gyflwynwyd yn 1972, yn parhau i fod yn boblogaidd ac yn cael eu gwerthu ledled y byd o ffatri Portmeirion yn Stoke on Trent. Mae'r casgliad hwn, gyda'i ffin o ddail gwyrdd unigryw ar bob darn, yn llenwi cypyrddau Meinir.
"Mae bob llestr sgen i'n rhai Botanic Garden. Achos fod y blodau mor hardd arnyn nhw dwi byth yn blino arnyn nhw. Dyna fydda i'n defnyddio am 11 mis o'r flwyddyn. Yna ym mis Rhagfyr mae gen i lestri Nadolig patrwm Holly and Ivy.
"Mae yna batrymau newydd Botanic Garden o hyd, fyddai'n twrio siop Portmeirion a meddwl 'pa batrwm dwi heb ei gael? Bydd rhaid cael hwn hefyd."

Ond mae mwy i'r casglu na llenwi cwpwrdd. Mae Meinir yn cofio prynu ei llestr cyntaf Portmeirion pan oedd hi'n ddeg oed, ar drip i weld ei nain.
"Oedden ni'n byw yn Nowlais ym Merthyr a Nain yn byw yn y gogledd yn Nantlle. Wedyn pob tro o'n i'n mynd i weld Nain o'n i yn mynd heibio Tremadog lle'r oedd siop Portmeirion bryd hynny a dyna sut wnes i ddechrau casglu. Cwpan a soser oedd y darn cyntaf brynes i dwi'n meddwl.
"Pob tro o'n i'n mynd i weld Nain o'n i'n hel rhywbeth ac wedyn yn 1979 fe es i Fangor i'r coleg, a roedd siop yno yn gwerthu llestru Portmeirion. Wedyn o'n i'n hel mwy o lestri i'w cadw nes y byddwn i'n prynu tŷ.
"Wedyn wnes i briodi yn y 90au a llwyth o anrhegion priodas oedd llestri Portmeirion.
"Dwi wedi cario 'mlaen i gasglu nhw nes bod gen i gasgliad eang dros ben erbyn hyn. Genai bopeth - o botiau, i botiau coffi, i bethe dal sbageti, i bethe dal sbeisys, i blatiau cinio, platiau te, powlenni sereal, pethe dal blode, pob math ohonyn nhw a dwi wrth fy modd efo nhw. Dwi'n eu defnyddio nhw bob dydd."

Rhan Fawr o'r Aelwyd
Dechreuodd Meinir gasglu llestri Portmeirion yn blentyn pan oedd hi'n ddeg oed ar wyliau i weld ei nain. Mae'n credu bod elfen o hiraeth a chysylltiad â'i gyfnodau yn y gogledd wedi sbarduno'r casgliad.
"Wrth edrych yn ôl dwi'n meddwl 'mod i'n cysylltu'r casglu gyda fy nghyfnodau yn y gogledd. Oedd mam yn dod o'r gogledd, a dwi hefyd yn meddwl fod Portmeirion ei hun yn le arbennig iawn. Felly mae'n siŵr fod yna elfen o hiraeth i'r casglu ac o gyfnodau arbennig yn fy mywyd."
Yn ôl Meinir, does dim llawer o'r llestri wedi torri dros y blynyddoedd, ac os bydd damwain, bydd hi'n "rhoi ail fywyd i'r llestri ar waelod pot blodyn i helpu gyda'r draeniad".
Er bod ei phlant, Rhys, Carys ac Osian, sydd bellach yn oedolion, erioed wedi gorfod pendroni am anrheg i'w mam, mae'r llestri wedi bod yn rhan fawr o'r aelwyd. Maent wedi cael eu defnyddio i weini prydau pen-blwydd, cinio Nadolig ac i hwylio paneidiau o de i anwyliaid a fyddai'n galw heibio.
Fodd bynnag, wrth i Meinir fod ar fin symud tŷ, mae cwestiwn ynghylch a fydd ei chasgliad o dros 200 o lestri yn llenwi cypyrddau ei chartref newydd.
"Dwi'n gyndyn iawn i adael iddyn nhw fynd i neb arall. Mae'r ferch wedi gofyn yn ddiweddar 'alla i gael rhai?' a dwi'n gyndyn iawn i adael iddyn nhw i fynd.
"A phan dwi'n ystyried cael gwared ar rai ohonyn nhw, mae'r plant yn dweud wrtha i am beidio! Maen nhw yn lestri braf iawn, sydd wrth gwrs yn mynd â fi 'nôl dros hanner canrif. Byddai'n rhyfedd iawn hebddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau Cysylltiedig
Hefyd o Ddiddordeb:
- Y Beatles a'r bwthyn ym Mhortmeirion
- Prysurdeb gweithwyr pentref Portmeirion. Fideo, 00:04:06
- 'Casglu cardiau post er mwyn dishgwl nôl'







