Skip to main content
Advertisement

Ymarferion Cyntaf Sioe Gerdd Newydd 'Calon' gan yr Urdd gyda 60 o Bobl Ifanc

60 o bobl ifanc o Gymru yn ymarfer sioe gerdd newydd 'Calon' gan Caryl a Non Parry, gyda pherfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Awst.

·5 min read
Dau o actorion yn ymarfer

Ymarferion Cyntaf Sioe Gerdd Newydd yr Urdd

Os ydych chi'n ffans o ganeuon Caryl Parry Jones, mae cynhyrchiad newydd yr Urdd yn sicr o fod o ddiddordeb i chi.

Dros y Pasg, daeth 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ymarferion cyntaf sioe gerdd newydd a gyfansoddwyd gan Caryl a Non Parry.

Fel y dangosir yn y lluniau, roedd llawer o hwyl wrth iddynt actio a pherfformio fersiynau o glasuron Caryl Parry Jones dros y degawdau.

Dyma'r sioe ddiweddaraf gan Gwmni Theatr yr Urdd ers iddynt ailgychwyn cynyrchiadau yn 2022.

Sefydlwyd y cwmni theatr yn y 1970au gyda'r nod o roi cyfle i bobl ifanc rhwng 14 a 19 oed fwynhau a datblygu eu profiadau celfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y sioe 'Calon', sydd yn gydweithrediad gyda Theatr Cymru, yn cael ei berfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 27 a 29 Awst.

Y criw a'r tîm cynhyrchu
Disgrifiad o’r llun, Yr holl griw gyda'r tîm cynhyrchu (chwith i'r dde) Elan Isaac (cyfarwyddwr symud), Caryl Parry Jones, Rhian Blythe (cyfarwyddo, Theatr Cymru), Non Parry a Miriam Issac (hyfforddwraig llais)

Y Tîm Cynhyrchu a'r Actorion

Yr holl griw gyda'r tîm cynhyrchu (chwith i'r dde) yw Elan Isaac (cyfarwyddwr symud), Caryl Parry Jones, Rhian Blythe (cyfarwyddo, Theatr Cymru), Non Parry a Miriam Issac (hyfforddwraig llais).

Ad (425x293)

Alys Jones sy'n chwarae cymeriad Ben. Meddai'r myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd:

"Yr apêl mwyaf i wneud cais am Calon oedd Caryl Parry Jones – fi ydy ei ffan mwyaf, dwi'n dwli arni. Mae gan Mam llwyth o fideos ohono i'n canu Chwarae Troi'n Chwerw o oed ifanc iawn."
Alys Jones yn ymarfer
Disgrifiad o’r llun, Alys Jones sy'n chwarae cymeriad Ben. Meddai'r myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd: "Yr apêl mwyaf i wneud cais am Calon oedd Caryl Parry Jones – fi ydy ei ffan mwyaf, dwi'n dwli arni. Mae gan Mam llwyth o fideos ohono i'n canu Chwarae Troi'n Chwerw o oed ifanc iawn."

Begw Rowlands, ar y dde, sy'n chwarae'r cymeriad Cal, ychwanegodd:

"Ro'n i'n blentyn swil iawn, ond ro'n i'n licio perfformio. Felly fyddwn i'n cuddio tu ôl i'r cyrtens, neu'n gwahodd pobl draw i weld perfformiad ond rhy swil wedyn i berfformio. Mi wnaeth hynny newid pan 'nes i gyrraedd Ysgol Bro Morgannwg a chael athrawes ddrama wych (Lowri Cynan) – oedd hi yn absolute legend."
Alys a Begw yn actio
Disgrifiad o’r llun, Begw Rowlands, ar y dde, sy'n chwarae'r cymeriad Cal: "Ro'n i'n blentyn swil iawn, ond ro'n i'n licio perfformio. Felly fyddwn i'n cuddio tu ôl i'r cyrtens, neu'n gwahodd pobl draw i weld perfformiad ond rhy swil wedyn i berfformio. Mi wnaeth hynny newid pan 'nes i gyrraedd Ysgol Bro Morgannwg a chael athrawes ddrama wych (Lowri Cynan) – oedd hi yn absolute legend."

Mae Efan Williams wedi hen arfer canu o flaen cynulleidfa fel prif leisydd y grŵp Dadleoli. Bydd yn portreadu Jed yn y sioe gerdd. Dywedodd Efan:

"Eisteddfod yr Urdd sydd wedi cychwyn fy nhaith i'n perfformio. 'Nes i gychwyn yn cystadlu ar yr unawd a'r unawd cerdd dant yn yr ysgol gynradd ond yn cael mwy o lwyddiant efo'r cerdd dant."
Efan Williams
Disgrifiad o’r llun, Mae Efan Williams wedi hen arfer canu o flaen cynulleidfa fel prif leisydd y grŵp Dadleoli. Bydd yn portreadu Jed yn y sioe gerdd: "Eisteddfod yr Urdd sydd wedi cychwyn fy nhaith i'n perfformio. 'Nes i gychwyn yn cystadlu ar yr unawd a'r unawd cerdd dant yn yr ysgol gynradd ond yn cael mwy o lwyddiant efo'r cerdd dant."

Ymysg y bobl ifanc a gafodd eu castio i rannau'r prif gymeriadau mae (o'r chwith i'r dde) Efan, Ashton, Glain, Harriet a Fraser.

Rhai o'r prif gymeriadau
Disgrifiad o’r llun, Ymysg y bobl ifanc i gael eu castio i rannau'r prif gymeriadau mae (o'r chwith i'r dde) Efan, Ashton, Glain, Harriet a Fraser

Mali (chwith), o Benarth, sy'n chwarae cymeriad Sil, ac yn canu am y tro cyntaf ar ei phen ei hun mewn sioe gerdd. Meddai Mali:

"Dw i ychydig yn terrified ond dw i mewn dwylo rili da, efo tîm cefnogol iawn."

Meddai Miri, o Ysgol Brynrefail, sy'n chwarae rhan Beth:

"Dw i erioed wedi bod yng Nghanolfan y Mileniwm, heb sôn am berfformio yno, felly dw i'n edrych ymlaen yn ofnadwy."
Mali a Miri yn ymarfer
Disgrifiad o’r llun, Mali (chwith), o Benarth, sy'n chwarae cymeriad Sil, ac yn canu am y tro cyntaf ar ei phen ei hun mewn sioe gerdd: "Dw i ychydig yn terrified ond dw i mewn dwylo rili da, efo tîm cefnogol iawn." Meddai Miri, o Ysgol Brynrefail, sy'n chwarae rhan Beth: "Dw i erioed wedi bod yng Nghanolfan y Mileniwm, heb sôn am berfformio yno, felly dw i'n edrych ymlaen yn ofnadwy."

Mae Harriet Haylock, o'r Fenni, yn actio'r cymeriad Elinor. Dywedodd Harriet:

"Pan 'nes i glywed am Calon, ro'n i'n meddwl ei fod mor eiconig... sioe o ganeuon Caryl Parry Jones fydd yn siŵr o ddod â gymaint o genedlaethau at ei gilydd. Mae hefyd yn llawn pynciau cyfoes a bydd pawb yn gallu uniaethu gyda rhywbeth ynddi."
Harriet Haylock
Disgrifiad o’r llun, Mae Harriet Haylock, o'r Fenni, yn actio'r cymeriad Elinor: "Pan 'nes i glywed am Calon, ro'n i'n meddwl ei fod mor eiconig... sioe o ganeuon Caryl Parry Jones fydd yn siŵr o ddod â gymaint o genedlaethau at ei gilydd. Mae hefyd yn llawn pynciau cyfoes a bydd pawb yn gallu uniaethu gyda rhywbeth ynddi."

Ac os oedd gan unrhyw un gwestiwn am un o'r caneuon, roedd rhywun ar gael i helpu.

Caryl Parry Jones
Disgrifiad o’r llun, Ac os oedd gan unrhyw un gwestiwn am un o'r caneuon... roedd rhywun ar gael i helpu...

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News