Yr actor Gruffydd Glyn yn ffilmio golgfa ar gyfer y ddrama Y Streic Fawr
Mae hi'n 25 mlynedd ers dechrau un o'r streiciau diwydiannol hiraf yng Nghymru a gwledydd Prydain.
Ar 30 Ebrill 2001, aeth 86 o weithwyr ffatri rhannau ceir Friction Dynamics ar streic dros amodau gwaith, gan barhau am bron i dair blynedd.
Yn ystod y cyfnod hwn, roedd gweld picedwyr yn sefyll ar ochr y ffordd yn Griffiths Crossing ger Caernarfon yn gyffredin. Roedd gyrrwyr yn pasio heibio gan godi llaw a chanu chorn mewn arwydd o undod.
Ar hyn o bryd, mae'r golygfeydd hyn yn cael eu hail-greu ar gyfer drama dair rhan ar S4C o'r enw Y Streic Fawr, a fydd yn cael ei darlledu cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Gruffydd Glyn, sy'n chwarae rhan Gerald Parry, un o arweinwyr y streic:
"Mae'n fraint cael chwarae rhan Gerald. 'Dan ni wedi bod yn ffilmio yn yr ardal ers pythefnos bellach a 'dan ni gyd isio 'neud job dda o ddweud stori mor bwysig ac i gynrychioli cymuned yn y ffordd ora' bosib.
Mae'n stori bwysig am bobl yn sefyll i fyny'n erbyn pobl farus, dangos fod yna bŵer mewn cymuned, a dwi'n teimlo bod hynny'n rhywbeth andros o bwysig yn ein byd ni heddiw."

'Porfiad swreal sefyll lle roedd y picedwyr yn sefyll'
Bu'r gweithwyr yn picedu am bron i 1,000 o ddyddiau ar ôl i'r perchennog Americanaidd, Craig Smith, geisio newid eu tâl a'u hamodau gwaith a'u cloi allan.
Er i'r gweithwyr ennill eu hachos mewn tribiwnlys diwydiannol, ni dderbyniwyd iawndal ganddo Mr Smith.
Ar y pryd, roedd yr anghydfod yn cael ei ystyried yn hanesyddol gan herio un o bwyntiau'r gyfraith am streicio.
Gerald Parry, a gaiff ei bortreadu gan Gruffydd, oedd areithiwr blaenllaw yn y ralïau a oedd yn gysylltiedig â'r streic.
Yn rhan o gast Y Streic Fawr mae Rhodri Trefor a Rhys ap Trefor. Bydd Rhodri'n chwarae Tomi Jones, a ddechreuodd fel siop steward cyn dod yn swyddog llawn amser i Undeb y Transport and General yng Ngogledd Cymru, a Rhys yn chwarae John Davis, a ddewiswyd i gynrychioli'r 86 o weithwyr yn y llys.
Dros y misoedd diwethaf, mae Gruffydd wedi bod yn ymchwilio'n fanwl i hanes y streic, gan ddarganfod llawer o ffeithiau agoriadol llygaid.
"Ro'n i'n fy arddegau cynnar yn 2001 ac yn byw yng Nghaerdydd felly dwi'n cofio peth sôn amdano yn enwedig gan fod fy nheulu i'n dod o'r gogledd ond ddim mwy na hynny.
Dwi wedi bod yn gwylio archif newyddion o'r cyfnod; gweld fel roedd pobl yn gyrru heibio ac yn beepio cyrn eu ceir i ddangos eu cefnogaeth, a phan aeth miloedd i'r maes yng Nghaernarfon i gefnogi'r streicwyr.
Roeddan ni'n ffilmio y tu allan i safle ffatri Ferodo y diwrnod o'r blaen ac yn sefyll lle roedd y streicwyr yn sefyll.
Mi oedd yna geir dal yn canu eu cyrn wrth fynd heibio; o bosib yn cofio fel oedd y bobl yn sefyll tu allan neu o bosib isio dangos eu cefnogaeth at y cynhyrchiad.
Roedd o'n brofiad reit swreal cael sefyll yn lle roedd Gerald a'i gyd-streicwyr yn sefyll a bod pobl yn dal i ganu cyrn i ddangos cefnogaeth."

Gruffydd Glyn yn cyfarfod Gerald Parry
Gweithiodd Gerald Parry yn ffatri Friction Dynamics am 30 mlynedd cyn i'r anghydfod ddechrau. Roedd yn cadeirydd cangen yr undeb ac fe greodd ei egwyddorion cadarn argraff ar Gruffydd.
"Wnaethon ni gyfarfod am baned wythnos dwytha' a gaethon ni sgwrs dda," meddai. "Mae'n amlwg fod Gerald yn undebwr mawr, wedi ei fagu i deulu Llafur mawr. Mae'n credu'n gryf mewn hawliau gweithwyr felly mae'n bwysig iawn ein bod ni'n dangos yr angerdd sganddo fo at betha sy'n bwysig iddo fo, a pha mor bwysig oedd sefyll i fyny dros ei gyd-weithwyr iddo."
"Dwi hefyd wedi bod yn 'stydio stumiau Gerald a gwrando ar ei lais a'r ffordd mae o'n siarad. Dwi'n bod yn ofalus wrth actio Gerald mai deud y stori yn hytrach na chreu dynwarediad ydw i. Dyna fy job i fel actor."
Gwyliwch gyfweliad gyda Gerald Parry yn 2023, ugain mlynedd ers i streic Friction Dynamics ddod i ben.
Er y bydd y ddrama'n rhoi sylw i safiad Gerald a'i gyd-streicwyr, mae'n dal i gofio am gefnogaeth ei gymuned.
"Yr unig beth alla i ddeud am y streic ydi y support gafon ni gan bobl leol a thrwy hynny gan y wlad a'r byd i gyd. Ddaeth pobl o bobman i'r picket line i'n supportio ni.
Dwi'n cofio lori mawr o Covent Garden yn dod yno dau ddiwrnod cyn 'Dolig gyda chig a ffrwytha'.
Oeddan yna gymaint o fwyd fe wnaethon ni rannu nhw allan i gartrefi'r henoed."

Gobaith Gruffydd ar gyfer y ddrama
Mae Gruffydd yn gobeithio y bydd y ddrama'n cynrychioli'r gweithwyr a'u teuluoedd yn deg, ac yn cyflwyno hanes y streic yn glir.
"Dwi'n gobeithio fydd y ddrama'n addysgu pobl fel fi oedd ddim yn gwybod llawer am y stori tu ôl i'r streic, ond hefyd bod y ddrama'n rhoi arwyddocad ehangach am bobl yn sefyll i fyny'n erbyn pobl farus ac yn dangos gwerth cymuned yn dod at ei gilydd."
Gwrandewch ar Gerald yn sgwrsio gydag Aled Hughes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- 20 mlynedd ers diwedd protest fawr Friction Dynamics, Caernarfon
- Beth oedd hanes streic Friction Dynamics? Fideo, 00:02:44






