Skip to main content
Advertisement

WNO yn dathlu 80 mlynedd gyda chefnogaeth gref yng Nghymru

Opera Cenedlaethol Cymru yn dathlu 80 mlynedd o hanes, gan wynebu heriau ariannol ond gyda chefnogaeth gref gan bobl Cymru a chynlluniau i dyfu cynulleidfaoedd drwy gynyrchiadau Cymraeg a ffrydio.

·5 min read
Corws y Cwmni Opera Cenedlaethol yng Nghapel Ebeneser Caerdydd 1946

Hanes Cynnar y Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru

Yn y 1940au, roedd Tafarn y Prince of Wales yng nghanol Caerdydd yn gartref cyntaf Opera Cenedlaethol Cymru (WNO), cyn iddo ddod yn gyrchfan adnabyddus i gefnogwyr rygbi ar ddiwrnod gêm fawr.

Ar 15 Ebrill 1946, cynhaliwyd y perfformiadau cyntaf gyda'r operâu Cavalleria Rusticana a Pagliacci yn cael eu perfformio'n gefn wrth gefn, gyda pherfformiad o Faust y noson wedyn.

Mae'r cynyrchiadau cynnar hyn wedi gwneud argraff fawr, gan ddenu pobl o bell i ymuno â'r corws.

Mae ambell i nodwedd yn bodoli hyd heddiw sy'n awgrym o hanes y Prince of Wales

Prince of Wales
Disgrifiad o’r llun, Mae ambell i nodwedd yn bodoli hyd heddiw sy'n awgrym o hanes y Prince of Wales

Yn ôl Geraint Lewis, cerddor a chyfansoddwr, roedd opera yn boblogaidd iawn yn y cyfnod hwnnw.

"Roedd y corws ar y pryd yn hollol amatur. Doedden nhw ddim yn gweithio fel cerddorion proffesiynol," meddai. "Bydden nhw i gyd yn dod o wahanol gefndiroedd, yn teithio lawr o'r cymoedd ac o'r gorllewin i Gaerdydd i greu breuddwyd newydd sef cwmni opera Cymreig am y tro cynta'." "Roedd pobl yn dwlu mynd i weld cwmni opera Carl Rosa, oedd yn teithio bobman, ac roedd repertoire opera yn y cyfnod hwnnw yn repertoire digon poblogaidd."

Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf

Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf
Disgrifiad o’r llun, Poster yn hysbysebu'r perfformiadau cyntaf

Presenoldeb a Heriau Cyfoes y WNO

80 mlynedd yn ddiweddarach, mae Opera Cenedlaethol Cymru bellach yn gweithredu o Ganolfan y Mileniwm, lle maen nhw'n paratoi ar gyfer perfformiad o opera Wagner, The Flying Dutchman, a fydd ar daith tan ganol Mai.

Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae toriadau ariannol wedi effeithio ar y cwmni, gan dorri tua chwarter o'i gyllideb, yn ôl ymgyrchwyr. Mae hyn wedi arwain at dorri 'nôl ar deithio a pheidio â llenwi swyddi gwag.

Ad (425x293)

Er hynny, mae Sarah Crabtree ac Adele Thomas, y ddwy sy'n rhannu'r gwaith o arwain y cwmni, yn parhau i fod yn optimistaidd ynglŷn â dyfodol y WNO.

Sarah Crabtree ac Adele Thomas yw cyd-brif weithredwyr a chyfarwyddwyr y WNO

Sarah Crabtree ac Adele Thomas gefn llwyfan yng nghanolfan y mileniwm
Disgrifiad o’r llun, Sarah Crabtree ac Adele Thomas yw cyd-brif weithredwyr a chyfarwyddwyr y WNO
"Mae'r argyfwng ry'n ni wedi bod drwyddo yn gwneud i bobl sylweddoli be' mae'r WNO yn ei olygu iddyn nhw," meddai Adele Thomas. "Ry'n ni wedi gweld cynnydd mawr mewn cefnogaeth i'r cwmni, i'n hunawdwyr, i'r corws, y gerddorfa a'r timau technegol. "Dyna pam ry'n ni'n gwybod fod gyda ni 80 mlynedd arall o'n blaenau achos dyw pobl Cymru ddim yn mynd i adael i'r WNO fynd â'i ben iddo."
Ychwanegodd Sarah Crabtree: "Mae pethau wedi setlo o gymharu â lle'r oedden ni flwyddyn yn ôl, ond mae'n frwydr nid dim ond i'r WNO ond i opera yn gyffredinol ac i'r sector gelfyddydol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thu hwnt. "Mae 'na deimlad taw Cymru piau'r cwmni, yn wahanol i Loegr lle mae opera'n teimlo'n fwy dieithr."

Gyrfaoedd a Gobaith y Genhedlaeth Ifanc

Yn 27 oed, mae'r bariton Owain Rowlands yn edrych ymlaen at yrfa ym myd opera, gan ddweud bod bod yn artist cyswllt gyda'r cwmni yn gyfle euraid i feithrin profiad a hyder.

Mae Owain Rowlands yn gobeithio cael gyrfa ym myd opera

Owain Rowlands
Disgrifiad o’r llun, Mae Owain Rowlands yn gobeithio cael gyrfa ym myd opera
"Mae'n golygu cymaint i fi fel artist ifanc. Dyma lle ni'n gallu magu profiad a hyder," meddai. "Mae gymaint o bobl yn mynd i'r Eisteddfod yn tyfu lan, a dyma'r cam nesaf i ni fel cantorion Cymru. "Chi'n edrych 'nôl ar yrfaoedd Rebecca Evans neu Bryn Terfel - dyma lle cychwynnodd e iddyn nhw, ac maen nhw wedi cael gyrfaoedd rhyngwladol. "Gobeithio bydd hynny'n gallu digwydd i nifer fawr ohonom ni yn y dyfodol hefyd. "Mae gan bobl gamargraff o beth yw opera, ei fod e'n rhy ddrud, bod rhaid i chi wisgo lan yn smart a bod yr opera'n rhy hir 'fyd. "Mae'n rhaid iddyn nhw ddod i weld rhywbeth fel Blaze of Glory - bydde hwnna'n berffaith i ddechrau gyda."

Heriau a Strategaethau i Gynyddu Cynulleidfaoedd

Mae Adele Thomas yn pwysleisio'r angen am gydbwysedd rhwng traddodiadol a modern, gan nodi bod cynhyrchu mwy o operâu Cymraeg eu hiaith yn flaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

"Mae 'na gynulleidfa fawr sydd ddim yn credu bod Opera'n berthnasol iddyn nhw ar hyn o bryd," meddai. "Cyn gynted ag y'ch chi'n goresgyn y rhwystrau hynny dwi'n meddwl y gwelwn ni fwy o bobl yn dod."

Yn ôl Geraint Lewis, gallai ffrydio cynyrchiadau o Ganolfan y Mileniwm mewn sinemâu ar draws Cymru fod yn ffordd effeithiol o godi proffil opera a denu cynulleidfa newydd.

Mae'r Met yn Efrog Newydd, Covent Garden a Glyndebourne yn defnyddio'r dull hwn eisoes.

"Dyle fod Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn ffrydio pob cynhyrchiad o lwyfan Canolfan y Mileniwm i theatrau bach dros Gymru i gyd," meddai. "Bydde pobl yn gallu gweld y cynyrchiadau yma yng Nghaergybi, Caernarfon, Aberteifi... Mae pawb yn 'neud e heblaw opera Cenedlaethol Cymru. "Dyma gyfle i ddemocrateiddio opera dros Gymru fel bod pobl yn gweld ei fod e'n rhywbeth sy'n cynhyrfu chi. "Mae opera yn 'neud i'r gwallt godi ar gefn eich pen ac mae ishe i bawb gael y profiad yna."

Yn ôl Geraint Lewis, gall opera "wneud i'r gwallt godi ar gefn eich pen"

Geraint Lewis
Disgrifiad o’r llun, Yn ôl Geraint Lewis, gall opera "wneud i'r gwallt godi ar gefn eich pen"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok. Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033. Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau Cysylltiedig a Straeon Perthnasol

  • WNO: Rhai o sêr Cymru yn beirniadu toriadau
  • Protest yn y Senedd yn erbyn toriadau i gwmni opera
  • Cantores opera yn troi at ofalu oherwydd diffyg gwaith

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News