Skip to main content
Advertisement

Gŵyl Tawe 2026 yn Llawn Cerddoriaeth a Chelfyddydau Bywiog yn Abertawe

Gŵyl Tawe 2026 yn Abertawe wedi dod i ben gyda cherddoriaeth a chelfyddydau bywiog, gan gynnwys perfformiadau gan The Joy Formidable, Gwenno, Melin Melyn a mwy.

·3 min read
Gwenno Saunders yn perfformio

Gŵyl Tawe 2026 yn Abertawe

Mae penwythnos arall o gerddoriaeth a chelfyddydau bywiog wedi dod i ben yn Abertawe, wrth i Ŵyl Tawe 2026 lenwi canol y ddinas â naws drydanol dros y dyddiau diwethaf.

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn yn ei ffurf bresennol, tyfodd gŵyl gelfyddydol iaith Gymraeg y ddinas yn fwy nag erioed eleni, gan ddechrau gyda gig agoriadol cyffrous gan The Joy Formidable yn The Bunkhouse nos Wener, cyn cloi gyda Gwenno yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nos Sadwrn.

O lwyfannau cymunedol lliwgar ac artistiaid lleol i berfformiadau pwerus gan fandiau megis Melin Melyn a Mellt, dyma gipolwg ar y dathlu, y canu a'r mwynhau dros benwythnos cofiadwy o dan faner Menter Iaith Abertawe.

Band ifanc o Sir Gâr o'r enw Coron Moron oedd yn agor Llwyfan Taliesin ar ddydd Sadwrn
Disgrifiad o’r llun, Band ifanc o Sir Gâr o'r enw Coron Moron oedd yn agor Llwyfan Taliesin ar ddydd Sadwrn

Band ifanc o Sir Gâr o'r enw Coron Moron oedd yn agor Llwyfan Taliesin ar ddydd Sadwrn

Ify Iwobi a'r Côr Cymunedol yn Amgueddfa'r Glannau
Disgrifiad o’r llun, Ify Iwobi a'r Côr Cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ify Iwobi a'r Côr Cymunedol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Y gynulleidfa'n cael eu swyno gan Cerys Hafana
Disgrifiad o’r llun, Y gynulleidfa'n cael eu swyno gan Cerys Hafana

Y gynulleidfa'n cael eu swyno gan Cerys Hafana

Cerys trwy'r tannau!
Disgrifiad o’r llun, Cerys trwy'r tannau!

Roedd briciau coch yr amgueddfa'n gefnlen trawiadol i'r perfformiadau

Roedd briciau coch yr amgueddfa'n gefnlen trawiadol i'r perfformiadau
Disgrifiad o’r llun, Roedd briciau coch yr amgueddfa'n gefnlen trawiadol i'r perfformiadau

Grŵp 'Tawerin' yn dawnsio'r Hoffedd

Advertisement
Grŵp 'Tawerin' yn dawnsio'r Hoffedd
Disgrifiad o’r llun, Grŵp 'Tawerin' yn dawnsio'r Hoffedd

Does dim byd yn curo twmpath ddawns!

Mwynhau'r Twmpath!
Disgrifiad o’r llun, Mwynhau'r Twmpath!
Does dim byd yn curo twmpath ddawns!
Disgrifiad o’r llun, Does dim byd yn curo twmpath ddawns!

Set egnïol gan Carwyn Ellis a Rio 18.

Set egnïol gan Carwyn Ellis a Rio 18.
Disgrifiad o’r llun, Set egnïol gan Carwyn Ellis a Rio 18.

Grŵp gwerin cyfoes seicadelig gyda 7 aelod yw Mwsog

Grŵp gwerin cyfoes seicadelig gyda 7 aelod yw Mwsog
Disgrifiad o’r llun, Grŵp gwerin cyfoes seicadelig gyda 7 aelod yw Mwsog

Gruffudd Glyn, prif leisydd y band Melin Melyn yn perfformio ar lwyfan yng ngardd yr amgueddfa...

Gruffudd Glyn prif leisydd y band Melin Melyn yn perfformio ar lwyfan yng ngardd yr amgueddfa
Disgrifiad o’r llun, Gruffudd Glyn, prif leisydd y band Melin Melyn yn perfformio ar lwyfan yng ngardd yr amgueddfa...

...a'r gynulleidfa'n joio'n iawn!

Cynulleidfa yn mwynhau
Disgrifiad o’r llun, ...a'r gynulleidfa'n joio'n iawn!

Daeth llawer o bobl allan i fwynhau'r ŵyl

Daeth llawer o bobl allan i fwynhau'r ŵyl
Disgrifiad o’r llun, Daeth llawer o bobl allan i fwynhau'r ŵyl

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Ciwio am lofnod!
Disgrifiad o’r llun, Ciwio am lofnod!

Straeon Perthnasol

  • Tafwyl yn cyhoeddi perfformwyr 2026 wrth ddathlu 20 mlynedd
  • Gŵyl y Gelli fel 'pont rhwng Cymru a gweddill y byd'
  • Cyngherddau yng Nghaerdydd yn cael caniatâd er gwaethaf gwrthwynebiad

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News