Drama Ledi'r Wyrcws yn Dathlu Traddodiad Canu Gwerin Cymreig
Morfydd Hughes (chwith) a Judith Humphreys yn y ddrama
Dros 70 mlynedd yn ôl, daeth Wyrcws yn Ninbych yn lleoliad allweddol ar gyfer diogelu traddodiad Cymreig o ganu gwerin.
Yn y 1950au, roedd y wyrcws yn parhau i fodoli gyda phobl yn garcharorion tlodi am dros hanner can mlynedd a mwy.
Ar hyn o bryd, mae drama Ledi'r Wyrcws yn teithio o amgylch Cymru ac yn adrodd y stori gudd o'r hyn a ddigwyddodd y tu ôl i giatiau'r wyrcws yn Ninbych.
Yr Athro Jerry Hunter sydd wedi sgriptio'r ddrama, gyda tri aelod yn y cast, sef Judith Humphreys, Morfydd Hughes ac Owain Arwyn.
Morfydd Hughes sy'n chwarae rhan Jane 'Shiani' Jones ac yn canu un o'r alawon gwerin sydd yn y sioe.
Daeth y syniad am y ddrama pan aeth Jerry Hunter cyn y cyfnod clo i draddodi darlith yn Ninbych.
Ar ddiwedd y sgwrs, daeth gŵr lleol ato a dechreuodd ddweud hanes y wyrcws oedd wedi'i leoli ar draws y ffordd.
"Dyma, meddai Jerry Hunter ar raglen Llwyfan ar BBC Radio Cymru, 'ble ddaru Lady Amy Parry-Williams recordio rhai o'r caneuon gwerin pwysicaf hi yn y fan yna.'"
"Mae gen i gefndir yn y byd academaidd â llen gwerin a dwi wedi gwneud gwaith casglu ar lên gwerin, dim caneuon yn arbennig ond dwi'n gwybod am hanes casglu pethe felly.
"O'n i'n gwybod am y Foneddiges Amy Parry Williams, sef gwraig T H Parry-Williams a'i bod hi wedi gwneud gwaith pwysig yn y 50au yn recordio caneuon gwerin.
"Do'n i ddim yn gwybod ei bod hi wedi gwneud hyn mewn wyrcws a mwy na hynny do'n i ddim yn gwybod fod 'na wyrcws yn yr 1950au, achos ro'n i'n cysylltu'r wyrcws efo Oes Fictoria ac Enoc Huws ac Oliver Twist," meddai.
Mae'r ddrama yn adrodd hanes Jane 'Siani' Jones, sydd wedi bod yn byw yn y Wyrcws ers 40 mlynedd ac sy'n cael ymweliad gan y Foneddiges i recordio rhai o'r caneuon gwerin oedd hi yn ei chofio, cyn iddyn nhw fynd yn angof.
Morfydd Hughes sy'n chwarae rhan Jane Jones:
"Mae hi'n ddynes gref, agos at ei lle ac yn alluog fel ydan ni'n dod i wybod yn sgil ymweliad Lady Parry Williams, sy'n dod yna i olrhain hen ganeuon traddodiadol Cymraeg sydd gan Jane ar ei chôf."
Jerry Hunter (ail o'r chwith) sydd wedi sgriptio'r ddrama

Dyma'r ddrama gyntaf i Jerry erioed ei ysgrifennu sydd wedi cael ei llwyfannu.
Roedd yn sôn am y broses "anodd" o ysgrifennu drama, ac yntau wedi arfer sgwennu nofelau.
"Syniad o ddynes bwysig, dynes o statws yn y wlad yn mynd mewn i siarad efo gwraigen sydd yn neb a sydd wedi bod yn garcharor oherwydd tlodi am dros hanner can mlynedd.
"A'r ddwy yn eistedd mewn ystafell i recordio caneuon, dyna'r craidd," meddai.
"'Nes i sgwennu 26 o ddrafftiau. Fel arfer pan dwi'n 'sgwennu nofel dwi'n 'sgwennu un drafft ac mae'r golygydd yn awgrymu newid ambell i beth.
"Ond, roedd o'n anoddach o lawer, felly dwi wir yn parchu dramodwyr go-iawn sy'n g'neud hynna gydol eu gyrfa," meddai.
Roedd cyfraniad Ann Parry-Williams i lên gwerin yn un pwysig. Fe briododd hi y bardd T H Parry-Williams yn 1942 ac fe gyhoeddodd hi sawl dogfen ar y traddodiad gwerin yng Nghymru.
Fel rhan o'i hymchwil a'i brwdfrydedd i gadw'r caneuon ar gof a chadw, roedd hi'n ymweld â'r wyrcws er mwyn recordio'r caneuon yn cael eu canu gan Siani Jones.
Cafodd y ddrama ei llwyfannu yn wreiddiol yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn 2023 ond mae bellach wedi derbyn grant Cyngor Gwynedd o gronfa Ffyniant Bro er mwyn galluogi'r criw i fynd â'r sioe ar daith.
Dywedodd Judith Humphreys:
"Tydw i heb deithio efo sioe lwyfan ers talwm iawn a dwi wrth fy modd cael bod efo Arwyn a Morfydd fan hyn."
Bydd Ledi'r Wyrcws ar daith nes 2 Ebrill.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.







