Cyngerdd Llwyddiannus yn Neuadd Pontio, Bangor
Gyda'r holl docynnau wedi gwerthu mewn 20 munud, fe wnaeth cyngerdd Cowbois Rhos Botwnnog gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC brofi'n hynod o boblogaidd yn neuadd Pontio, Bangor ym mis Mawrth.
Ond os nad oeddech chi yno, peidiwch â phoeni - dyma bedwar fideo o berfformiadau'r cyngerdd arbennig, sydd hefyd ar gael i'w glywed yn ei gyfanrwydd ar .
Celwydd Golau Ydi Cariad
Cafodd Cowbois Rhos Botwnnog eu ffurfio gan y brodyr Aled, Dafydd ac Iwan yn 2006. Yn ymuno â nhw ar lwyfan Pontio roedd aelodau eraill y band sef Branwen Williams, Llyr Pari, Branwen Williams, Euron Jones, Osian Huw Williams a Gethin Griffiths.
Fe wnaeth chweched albwm y band, sef Mynd â'r Tŷ am Dro, ennill gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2024.
Ceffylau ar D'rannau
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, polisi preifatrwydd cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Gwrandewch ar y cyngerdd yn llawn ar
- 'Anrhydedd i chwarae gyda Cowbois': Wythnos ym myd gwaith Y Gerddorfa
- Iwan Huws Cowbois:
'Teimlo fel cerddor eto'




