Skip to main content
Advertisement

Carrie Sauce yn ennill Y Llais 2026 fel y cyntaf i wneud hynny fel artist drag

Carrie Sauce yw'r artist drag cyntaf i ennill Y Llais 2026 ar S4C, gan ennill fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel. Bydd hi'n recordio cân wreiddiol gan Amy Wadge ac yn parhau i ddysgu a pherfformio yn y Gymraeg.

·2 min read
carrie sauce

Enillydd Y Llais 2026

Mae Carrie Sauce wedi ennill teitl ail gyfres Y Llais ar S4C, gan ddod yn yr artist drag cyntaf i ennill The Voice ar draws holl diriogaethau'r gyfres ers ei sefydlu yn 2010.

Yn ystod y gyfres, roedd yr hyfforddwyr Bronwen Lewis, Syr Bryn Terfel, Yws Gwynedd ac Aleighcia Scott wedi dangos eu bod wrth eu boddau gyda pherfformiadau Oliver Martin, sydd yn perfformio fel Carrie Sauce.

Enillodd Carrie Sauce y gystadleuaeth fel aelod o dîm Syr Bryn Terfel. Y tri arall a gyrhaeddodd rownd derfynol Y Llais 2026 oedd Chuts o Gricieth, Cas Jones o Ben-y-bont Fawr, a Lywis o Abertawe.

'Teimlo'n anhygoel'

Wrth ymateb i'w fuddugoliaeth, dywedodd Carrie Sauce:

Ad (425x293)
"Mae'n teimlo'n anhygoel 1 byswn i byth wedi dychmygu hyn ond dyma'r sypreis gorau y gallwn i fod wedi gobeithio amdano.
"Dwi methu aros i weld beth sy'n dod nesaf.
"Mae fy nhaith wedi bod yn amrywiol! Jest drwy edrych ar y dewis o ganeuon 1 wedi mynd o Eurovision, i sioeau cerdd, i Cher, i rai caneuon gwreiddiol Cymraeg hyfryd 1 mae wedi bod yn anhygoel!"

Fel enillydd Y Llais, bydd Carrie Sauce yn cael y cyfle i recordio cân wreiddiol gan un o gyfansoddwyr mwya'r byd, Amy Wadge, sydd wedi cydweithio gydag artistiaid fel Pink, Sam Ryder, ac Ed Sheeran.

Mae dros chwarter o'r cystadleuwyr o ddwy gyfres gyntaf Y Llais yn ddysgwyr neu'n bobl sy'n ailgydio yn yr iaith Gymraeg.

Mae Carrie Sauce, sy'n wreiddiol o Wlad yr Haf, hefyd yn ddysgwr balch ac wedi mwynhau'r profiad o ganu yn y Gymraeg:

"Mae'n hynod bwysig," meddai.
"Mae wir yn dod i ffocws i'r iaith Gymraeg ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn adfywio'r iaith.
"Mae'n rhan mor brydferth o'n diwylliant a dydyn ni methu fforddio i'w cholli hi.
"Dwi eisiau gallu parhau i berfformio, parhau i ddysgu Cymraeg, parhau i fwynhau'r wlad anhygoel yma.
"Dwi wedi byw yma ers 7 mlynedd ac yn gobeithio byddai'n byw yma am weddill fy oes."

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol

Cystadleuydd Y Llais yn galw am fwy o ddealltwriaeth o anabledd anweladwy

This article was sourced from bbc

Advertisement

Related News